Ein Stori

Sefydlwyd Menter y Plu ym Medi 2018 fel Cwmni Buddiant Cymunedol gyda’r bwriad o brynu Tafarn y Plu, Llanystumdwy a’i redeg fel tafarn gymunedol.

Ymgyrch prynu Tafarn y Plu, 2018

Cynigiwyd cyfranddaliadau cyhoeddus yn y fenter a llwyddwyd i godi dros £80,000, gyda phobl leol ac unigolion o bob cwr o’r byd yn cyfrannu. Gyda phlethiad o grant a benthyciad di-log o £120,000 gan Gronfa Buddsoddi mewn Asedau Cymunedol (ariannwyd gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop), cwblhawyd y pryniant ar 1 Awst 2019.

Dathlu ailagor y Plu, Awst 2019

Mae’r Plu yn dŷ tafarn traddodiadol sydd dros 200 oed ac mae’n parhau i ddal llawer o’r nodweddion traddodiadol o gyfnod y 1950au. Ceir bar a ‘lolfa’ ym mlaen y dafarn, gyda lle i gynnal cyfarfodydd a digwyddiadau bach. Yn hydref 2020 cafwyd cymorth rhaglen deledu Prosiect Pum Mil (S4C) i adeiladu llwyfan a lle perfformio awyr-agored yng ngardd y dafarn.

Ein llwyfan awyr-agored

Daeth yr haint COVID-19 i ymyrryd yng nghynlluniau’r fenter ym Mawrth 2020 ond parhaodd y fenter i geisio gwasanaethu’r ardalwyr yng nghanol y cyfnodau clo. Yn ystod y flwyddyn honno daeth y llety gwyliau drws-nesaf yng Nghapel Tabernacl (Capel Bach) ar werth. Cynigiodd y fenter gyfranddaliadau pellach, gan godi dros £30,000 o gyfalaf ac fe lwyddwyd i brynu’r Capel Bach gyda benthyciad di-log pellach. Mae’r llety hunan-ddarpar yn cysgu chwech unigolyn ac yn profi’n ffrwd incwm gwerthfawr i‘r fenter.

Capel Bach